Welsh language portal goes live on ESR

The Electronic Staff Record for NHS Wales staff is now available to view in both Welsh and English.

A 4-month collaborative project between NHS Wales Shared Services Partnership and the ESR teams within NHS Business Services Authority (NHSBSA) and IBM during the autumn of 2021 has resulted in the ability to view and transact certain ESR tasks in the medium of Welsh via the ESR portlets. 

NHS Wales organisations have a statutory duty to comply with the Welsh Language (Wales) Measure 2011 and the Welsh Language Standards that outline the obligations of all NHS organisations in the delivery of Welsh language services and facilitating the use of the Welsh language within NHS Wales.

Work on the portlets commenced in September 2021 and following extensive translation work, the portlets were developed and quality assured prior to launch in December 2021.   

The feedback on this progressive development has been encouraging to date.

Knowing that the ESR portal is now bilingual is a great help. Seeing bilingual systems like this is important and staff are able to choose without asking.  This is a significant step forward to promote the proactive offer internally within NHS Wales. To be able to see the Welsh language existing, consistent and on an equal level with English gives it fair status.

J.Williams, Velindre University NHS Trust

 

Since I started my working life, I have had to deal with HR matters in my second language, which is English. This has been difficult at times, especially when dealing with work related matters that have been quite stressful.  Not having the option of discussing matters through the medium of Welsh has added to the stress. With the development of a Welsh ESR, it shows that I am now welcome to use my first language.

A.Williams, C&VUHB

It’s really encouraging to have the ESR portal available in Welsh.  It’s a significant development and a step in the right direction.  It demonstrates that NHS Wales respects my language of choice, and that I have the freedom to use my language of choice.  It is important to recognise Welsh language users and to ensure that the Welsh language is not treated less favourably than English.

E.Jenkins, DHCW

Making the ESR interface available in Welsh is a significant development for our Welsh speaking workforce. For many of our staff who speak Welsh, Welsh is their first language, and as such, the language in which they feel most comfortable operating and communicating. We look forward to further developing the functionality of ESR in the Welsh language.

N.Ellis, Aneurin Bevan University Health Board

Porth y Gymraeg yn mynd yn fyw ar ESR

Mae'r Cofnod Staff Electronig (ESR) ar gyfer staff GIG Cymru bellach ar gael i'w weld yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae prosiect cydweithredol 4-mis rhwng Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a’r timau ESR o fewn Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG (NHSBSA) ac IBM yn ystod hydref 2021 wedi arwain at y gallu i weld a thrafod rhai tasgau ESR yn Gymraeg drwy gyfrwng y Gymraeg drwy byrth ESR.

Mae gan sefydliadau GIG Cymru ddyletswydd statudol i gydymffurfio â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau’r Gymraeg sy’n amlinellu oblygiadau holl sefydliadau’r GIG o ran darparu gwasanaethau Cymraeg a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg o fewn GIG Cymru.

Dechreuodd y gwaith ar y pyrth ym mis Medi 2021 ac yn dilyn gwaith cyfieithu helaeth, datblygwyd y pyrth, a sicrhawyd ansawdd cyn eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021.

Mae'r adborth ar y datblygiad blaengar hwn wedi bod yn galonogol hyd yma.

 

Mae gwybod bod porth ESR bellach yn ddwyieithog yn help mawr. Mae gweld systemau dwyieithog fel hyn yn bwysig ac mae staff yn gallu dewis heb ofyn. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen i hyrwyddo’r cynnig rhagweithiol yn fewnol o fewn GIG Cymru. Mae gallu gweld y Gymraeg yn bodoli, yn gyson ac ar yr un lefel â’r Saesneg yn rhoi statws teg iddi.

J.Williams, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre

 

Ers i mi ddechrau fy mywyd gwaith, rwyf wedi gorfod delio gyda materion AD yn fy ail iaith, sef Saesneg. Mae hyn wedi bod yn anodd ar adegau, yn enwedig wrth ymdrin â materion yn ymwneud â gwaith sydd wedi bod yn dipyn o straen. Mae peidio cael yr opsiwn o drafod materion trwy gyfrwng y Gymraeg wedi ychwanegu at y straen.  Gyda datblygiad ESR Cymraeg, mae’n dangos bod croeso i mi ddefnyddio fy mamiaith bellach.

A.Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 

Mae’n galonogol iawn cael y porth ESR ar gael yn Gymraeg. Mae’n ddatblygiad arwyddocaol ac yn gam i’r cyfeiriad cywir. Mae’n dangos bod GIG Cymru yn parchu fy newis iaith, a bod gennyf y rhyddid i ddefnyddio fy newis iaith. Mae’n bwysig cydnabod defnyddwyr y Gymraeg a sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

E.Jenkins, Gofal a Iechyd Digidol Cymru

 

Mae sicrhau bod rhyngwyneb ESR ar gael yn Gymraeg yn ddatblygiad arwyddocaol i’n gweithlu sy’n siarad Cymraeg. I lawer o'n staff sy'n siarad Cymraeg, Cymraeg yw eu hiaith gyntaf, ac o'r herwydd, yr iaith y maent yn teimlo'n fwyaf cyfforddus yn gweithredu a chyfathrebu ynddi. Edrychwn ymlaen at weld ymarferoldeb ESR yn cael ei ddatblygu ymhellach yn y Gymraeg.

N.Ellis, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

 

 

Taylorfitch. Bringing Newsletters to life